Briff Y Prosiect

I greu app ios ffôn symudol sy'n gadael i'r defnyddwyr cael rhagflas o gerddoriaeth arbrofol - sydd yn cael ei greu yng Nghymru heddiw ac o'r gorffennol.

To produce a mobile ios app in order for users to get a flavour of experimental music created in Wales today and from the past

Cysyniad / Concept

Mae CAM yn cynnig platfform i gerddoriaeth arbrofol a ffilmiau anturus o Gymru, yn ogystal â rhoi sylw i artistiaid o amgylch y byd sydd o'r un brethyn creadigol. Yn gweithredu fel rhaglen radio, yn guraduron ffilmiau a rhaglenni dogfen flaengar, yn gylchgrawn digidol ac yn gyfres o ddigwyddiadau byw - mae CAM yn hafan i feddwl amgen.

CAM is a platform for experimental music and film from Wales, as well as showcasing artists from around the world cut from the same creative cloth. CAM operates as a radio show, adventurous film and documentary curators, a digital magazine and a series of live events – a haven for alternative thinking.

Symudol / Mobile

Mae'r ap cam wedi ei gynllunio a'i ddatblygu i weithio yn gyfan gwbl ar ffonau Apple iOS a fersiynau o'r iPad.

The cam app was designed and developed to work exclusively on Apple ios mobiles phones and versions of the Ipad.

AP IOS CAM

Mae’r ap yma yn rhoi rhagflas o’r rhaglen radio ‘Cam o’r Tywyllwch’ gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth amgen a gaiff ei greu yng Nghymru.

O fewn yr ap byddwch yn gallu gwrando ar bedwar cymysgiad arbennig ar gyfer bob tymor.

Bydd pob cymysgiad yn cynnwys traciau gan artistiad blaengar hen a newydd o Gymru ac yn adlewyrchu y math o gerddoriaeth gaiff ei chwarae ar ein rhaglen radio yn rheolaidd.

CAM IOS APP

This app gives a taste of the ‘Cam o’r Tywyllwch’ radio show, concentrating on the alternative music created in Wales.

Within the app, you will be able to listen to four special mixes, one for each season.

Every mix will include tracks from leading artists, old and new, from Wales that reflects the type of music played on our radio show regularly.

Avatar
Project Lead / Robi Iago

An experienced creative interactive designer, Robi has worked on national bilingual projects including web design, app design, interactive video and digital magazines.

View Profile